Beth yw Ysgol Fasnach Deg?
Mae dod yn ysgol Fasnach Deg yn llawer mwy na dim ond cael bathodyn. Gallai'r ymgyrch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu. Os yw'r ysgol yn cyfarfod â'r holl feini prawf isod bydd yr ysgol yn cael tystysgrif gan Sefydliad Masnach Deg i gydnabod ei hymdrech i hyrwyddo a datblygu Masnach Deg.
Mae ennill Statws Masnach Deg hefyd yn gallu cyfrannu at Eco Sgolion ac Ysgolion Iach, cysylltwch â ni i ganfod rhagor - schools@fairtradewales.com .
Mae gwefan newydd ar gyfer Ysgolion Masnach Deg ledled y DU. Drwy'r wefan newydd ffantastig hon gallwch ddod yn Ysgol Fasnach Deg gan ddefnyddio'r system ar lein, gan gofrestru ar lein, llwytho i fyny'ch tystiolaeth o ddigwyddiadau masnach deg ayb a derbyn eich tystysgrif!
(Cofiwch:: Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Masnach Deg i gyfieithu hwn i'r Gymraeg. Hefyd, os yw'ch ysgol yn cael anhawster defnyddio cyfrifiaduron, cysylltwch â ni ar school@fairtradewales.com.)
<< Yn ôl i brif dudalen Ysgolion Masnach Deg