Ymgyrch Gwlad Masnach Deg

Ar 8 Mai 2004 addawodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Cymru'r wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd. Mae Fforwm Masnach Deg Cymru'n annog pawb ledled Cymru i gymryd rhan a chymryd y cam pwysig hwn tuag at wneud tlodi'n hanes.

Y Meini Prawf ar gyfer Statws Gwlad Masnach Deg
I ddod yn wlad Masnach Deg rydym angen pobl ym mhob rhan o'r wlad i ddefnyddio cynnyrch Masnach Deg, hyrwyddo Masnach Deg ac egluro pam y mae mor bwysig.

In Mae targedau penodol wedi'u gosod er mwyn mesur hyn, yn amrywio o'r nifer o drefi a siroedd yng Nghymru sydd â statws Masnach Deg, hyd at yr ymrwymiadau oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cafodd y meini prawf hyn eu derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Scottish Executive ym mis Gorffennaf 2006.

Cymerwch ran!
Os hoffech helpu i wneud Cymru'r Wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd mae digonedd o gyfleoedd.

Gallwch ganfod a oes gan eich tref neu sir chi fenter i gymryd rhan yn lleol. Neu, gallwch gael eich ysgol, prifysgol, eglwys neu weithle i gymryd rhan hefyd!

Cliciwch yma i ganfod mwy am gymryd rhan.


<< Yn ôl i dudalen Ynglŷn â Masnach Deg Cymru