Cynnyrch Masnach Deg

Mae dros 1,500 o gynnyrch Masnach Deg ar gael yng Nghymru, pob un yn gallu cael ei adnabod wrth y Nod Masnach Deg.

Dim ond cynnyrch sy'n cyfarfod â meini prawf Masnach Deg sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol sy'n gallu arddangos Nod Masnach Deg. Mae'r holl gynnyrch sy'n arddangos y nod yn cael eu harchwilio'n annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig tegwch mewn gwirionedd i gynhyrchwyr. Dyma'ch gwarant fod y cynnyrch wedi'i fasnachu'n deg.

Sefydliad Masnach Deg sy'n trwyddedu Nod Masnach Deg ym Mhrydain. Dim ond ar gynnyrch sy'n cyfarfod â safonau cydnabyddedig rhyngwladol y gellir ei ddefnyddio . Rhaid i'r cyflenwr (perchennog y brand neu'r prif ddosbarthydd cenedlaethol) lofnodi Cytundeb Trwydded y Sefydliad sy'n rhoi trwydded i ddefnyddio'r Nod. Mae'r trwyddedwyr yn cael eu harchwilio'n annibynnol.

Ni all rhai eitemau, megis crefftwaith wedi'i fasnachu'n deg er enghraifft, gael nod Masnach Deg. Gallai'r eitemau hyn fod yr un mor llesol wrth helpu cynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu i weithio eu ffordd allan o dlodi. Mae llawer o siopau a mewnforwyr yn cofrestru gyda Chymdeithas Brydeinig Siopau Masnach Deg er mwyn dilysu'u statws Masnach Deg.


<< Yn ôl i'r dudalen ynglŷn â Masnach Deg Cymru