Beth yw Masnach Deg?

Mae Masnach Deg yn bwysig. Mae plentyn yn marw o dlodi pob 3 eiliad, ac mae llawer o'r rhai sy'n byw mewn tlodi'n cynhyrchu'r bwyd a dillad rydym ni'n eu cymryd yn ganiataol. Gall Masnach Deg helpu i newid hynny.

Mae Masnach Deg yn bartneriaeth rhwng cwsmeriaid yn y gorllewin a chynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu.

Mae llawer o'r cynnyrch rydym yn eu prynu yn yr archfarchnadoedd yn cael eu tyfu gan bobl nad ydyn nhw'n cael eu talu'n iawn am eu gwaith ac o ganlyniad yn byw mewn tlodi. Ymhellach mae nifer o'r eitemau'n cael eu cynhyrchu o dan amodau gwaith difrifol, gyda phlant yn gweithio dros 80 awr yr wythnos gyda chemegolion peryglus.

Mae cynnyrch sy'n cael eu masnachu'n deg yn wahanol.

Mae Masnach Deg yn gwarantu:

  • Pris teg i gynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu
  • ‘Cyflog byw' ar gyfer y cynhyrchwyr hyn
  • Dim llafur plant
  • Amodau gwaith diogel
  • Gwarchod yr amgylchedd
  • Hawliau ar gyfer merched
  • Premiwm cymdeithasol

Mae Nod Masnach Deg yn cael ei arddangos ar gynnyrch sy'n cyfarfod â'r gwarantau hyn, gan fod yr holl gynnyrch sy'n arddangos y nod yn cael eu harchwilio'n annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi tegwch mewn gwirionedd i gynhyrchwyr.

Cliciwch yma i ganfod rhagor am Nod Masnach Deg ac am y cynnyrch Masnach Deg sydd ar gael yng Nghymru.


<< Yn ôl i'r dudalen Ynglŷn â Masnach Deg