Astudiaeth Achos Caffaeliad

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Bu ymgyrch Sir Masnach Deg yn Sir Gaerfyrddin ers 2006. Ers ei lansio bu llwyddiannau sylweddol, sydd wedi arwain at statws sir Masnach Deg i Sir Gaerfyrddin ym mis Mehefin eleni (2009).

Mae caffaeliad yn allweddol ar gyfer hyrwyddo cynaladwyedd a masnach deg, ac fel rhan o'i bolisi caffaeliad cynaliadwy, mae'r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Masnach Deg mewn nifer o ffyrdd. Mae'r cyngor bellach yn darparu sudd ffrwythau Masnach Deg (lle bo'n bosibl) ar gyfer ysgolion lleol (cynradd ac uwchradd) yn yr ardal. Bydd hyn hefyd o gymorth i nifer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio i gael eu cydnabod fel ‘Ysgol Masnach Deg'.

Yn ddiweddar, sicrhaodd y gwasanaeth arlwyo gyflenwad o fananas Masnach Deg ar gyfer y 40 wythnos nesaf. Golyga hyn, yn ychwanegol at yr ysgolion, y bydd modd i drigolion brynu bananas Masnach Deg yn ffreuturiau'r cyngor, pyllau nofio, clybiau chwaraeon ayyb ledled y sir, a fydd yn ei dro hefyd yn cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg. Yn ddiddorol, nid yw'r cyfnewid hwn wedi golygu mwy o gost i'r cyngor. Mae hyn yn dangos nad yw prynu nwyddau o ffynonellau egwyddorol o reidrwydd yn golygu costau uwch.

Mae'r tîm Caffaeliad yn cynnal cynlluniau peilot Asesiad Risg Cynaliadwy, yn unol ag argymhelliad Gwerth Cymru , sy'n cynnwys meini prawf ar gyfer nifer o faterion cynaladwyedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys ym mhob penderfyniad caffaeliad ar y cyfle cyntaf. Roedd defnyddio Asesiad Risg Cynaliadwy ar y cytundeb ffrwythau a llysiau o gymorth i sicrhau cyflenwad o fananas Masnach Deg. Hefyd, yn ddiweddar derbyniodd yr awdurdod wobr platinwm y Safon Iechyd Gorfforaethol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yr astudiaeth achos yn canolbwyntio ar y strategaeth Caffaeliad Bwyd Cynaliadwy, a oedd yn cynnwys bwyd Masnach Deg.

Yn fewnol, mae gan y cyngor nifer o Dimau Gwyrdd, sy'n gweithio i hyrwyddo materion gwyrdd, a chefnogi gweithgareddau Masnach Deg. Mae'r cyngor hefyd yn enwebu cynrychiolydd staff i fynychu cyfarfodydd sir Masnach Deg ac yn cynorthwyo i gydlynu gwaith y grŵp.

O ran gweithio gyda phartneriaid, yn ôl yn 2007 arwyddodd Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Gaerfyrddin (partneriaeth o sefydliadau sector gyhoeddus lleol yn Sir Gaerfyrddin sy'n cynnwys y cyngor, ymddiriedolaeth iechyd, heddlu a'r sector gymunedol) ymrwymiad i "Sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn Sir Gynaliadwy". Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddefnyddio nwyddau Masnach Deg a chefnogi ymgyrch Sir Masnach Deg.

Nododd y cyngor mai'r sialensiau mwyaf oedd sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r polisïau sy'n cael eu mabwysiadu, a cheisio sicrhau, lle bo gan unigolion neu swyddfeydd gyfrifoldeb dros brynu nwyddau (e.e. te a choffi), eu bod yn ymwybodol o ymrwymiad y cyngor ar Fasnach Deg ac yn ei gefnogi drwy ddewis Masnach Deg. Maent yn cydnabod bod gwaith parhaus i'w wneud i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer Masnach Deg yn swyddfeydd y cyngor ac o fewn cymuned Sir Gaerfyrddin.

Serch hynny, yn sgil ymrwymiad parhaus y cyngor at gynaladwyedd, cafwyd llwyddiannau sylweddol hyd yma o ran caffaeliad a materion egwyddorol, o fewn yr awdurdod a gydag ysgolion, partneriaid a'r gymuned ehangach. Gobeithio y bydd hyn yn golygu y gall Cyngor Sir Gaerfyrddin barhau gyda'r gwaith da a chynyddu eu hymrwymiad at Fasnach Deg a'r agenda cynaladwyedd ehangach.