Gwnewch eich Gweithle'n Fasnach Deg
Ble bynnag rydych yn gweithio, os ydych yr unig weithiwr, neu yn un o filoedd, gallwch ddal i hyrwyddo Masnach Deg. Gallwch wneud eich gweithle'n Fasnach Deg drwy fabwysiadu Polisi Masnach Deg sy'n sicrhau:
Fod cydlynydd wedi'i h / apwyntio yn gyfrifol am sicrhau fod:
- Yr holl weithwyr yn deall ystyr Masnach Deg, yn cydnabod y manteision hynny i gynhyrchwyr ac yn ymwybodol o'r amrywiaeth o gynnyrch Masnach Deg sydd ar gael.
- Peiriannau gwerthu gyda diodydd a bariau siocled Masnach Deg.
- Y caffi'n gweini diodydd a byrbrydau Masnach Deg.
- Te a choffi Masnach Deg ym mhob cegin.
- Te a choffi Masnach Deg yn cael eu gweini mewn cyfarfodydd ac yn cael eu rhoi i bob ymwelydd.
- Cyhoeddiadau mewnol yn rhedeg stori nodwedd yn rheolaidd ar Fasnach Deg.
- Adran adnodd ar gyfer unrhyw un â diddordeb ym Masnach Deg (arddangosfa a / neu ar fewnrwyd y staff).
- Cynhelir digwyddiadau o leiaf unwaith y flwyddyn i hyrwyddo Masnach Deg, er enghraifft yn ystod Pythefnos Masnach Deg.
Gallwch lawr lwytho enghraifft o bolisi o dudalen adnoddau Masnach Deg ar Waith.
<< Yn ôl at brif dudalen Masnach Deg ar Waith