Dathliadau 500fed Tref Masnach Deg
Gyda’r hwyr ar 1 Tachwedd 2010, ymgasglodd cefnogwyr masnach deg yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar gyfer cyhoeddi 500fed Tref Masnach Deg y DU. Cafodd beicwyr a oedd yn cymryd rhan yng ngham olaf Taith Feiciau 500 Milltir dros 500 Tref eu croesawu gan ddisgyblion yr ysgolion diweddaraf i ennill statws Masnach Deg.
Bicester yn Swydd Rhydychen a gafodd y teitl 500fed Tref Masnach Deg y DU, gan ymuno gyda mudiad rhyngwladol cynyddol o Drefi Masnach Deg, sydd bellach yn cwmpasu 19 o wledydd ac yn uno prif ddinasoedd megis Rhufain, Brwsel, Paris a Llundain gyda threfi marchnad bach ac ynysoedd pellennig yr Alban. Cymeradwyodd y dyrfa wrth i Bruce Crowther - yr Ymgynghorydd Trefi Masnach Deg - gyflwyno tystysgrif i’r dref drwy gyswllt fideo byw. Gallwch ddarllen mwy am Bicester yn natganiad i'r wasg y Sefydliad Masnach Deg .
Daeth y noson i ben gyda Jane Davidson AC – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, yn cyflwyno baneri Masnach Deg i ddisgyblion a oedd yn cynrychioli’r Ysgolion Masnach Deg diweddaraf yng Nghymru.
