Cymru yn dathlu ei hail flwyddyn fel Cenedl Masnach Deg

Mae cefnogwyr Masnach Deg yn dathlu ail ben-blwydd Cymru fel Cenedl Masnach Deg y mis hwn.

Cyflawnodd Cymru'r statws hwn ym Mehefin 2008 ac ar hyn o bryd, dyma'r unig wlad i gyrraedd safon fawreddog Cenedl Masnach Deg.

Meddai Elen Jones, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg:

‘Rydym yn falch iawn o gael dathlu ein hail flwyddyn fel Cenedl Masnach Deg. Mae'r Nod Masnach Deg yn cael ei adnabod yn eang ledled Cymru bellach, a siopwyr Cymru yn dewis Masnach Deg yn rheolaidd. Rydym yn cychwyn ar ail gam ymgyrch Cenedl Masnach Deg a bellach am ganolbwyntio ar gynyddu polisi cyhoeddus masnach deg a hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o faterion Masnach Deg ledled Cymru.'

Meddai:

‘Hefyd hoffem longyfarch yr Alban sydd ar gamau olaf eu hymgyrch genedlaethol ar hyn o bryd, ac estyn ein cefnogaeth i unrhyw wledydd eraill sydd am ymuno gyda ni.'

Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, a roddodd gefnogaeth gref i'r rhaglen Cenedl Masnach Deg:

‘Rwy'n falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf i gyrraedd statws Masnach Deg, ac rwyf wrth fy modd ein bod bellach yn dathlu ein hail ben-blwydd fel cenedl Masnach Deg.'

‘Mae'n galonogol gweld fod gwerthiant nwyddau Masnach Deg yn parhau i gynyddu yng Nghymru, a bod mwy a mwy ohonom yn hapus i dalu pris teg am nwyddau bob dydd, megis te, coffi a siocled, gan wybod ein bod yn cefnogi rhai o ffermwyr a chynhyrchwyr tlotaf y byd i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.'

Mae ychydig dros 77% o awdurdodau lleol Cymru yn gweithio tuag at statws Masnach Deg, o'i gymharu gyda 31% yn unig yn yr Alban a 25% yn Lloegr, gyda 804 o ysgolion yn gweithio tuag at fod yn Ysgolion Masnach Deg. Dengys arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fod dros 50% o siopwyr Cymru yn dewis nwyddau Masnach Deg yn rheolaidd.