Dewch yn Brifysgol / Coleg Masnach Deg
Mae dod yn brifysgol neu goleg Masnach Deg yn cynnwys cyrraedd y 5 nod sydd wedi'u hamlinellu ar dudalen ‘Beth yw Prifysgol neu Goleg Masnach deg'.
Does dim trefn gywir nac anghywir o gyrraedd y 5 Nod. Bydd gan bob sefydliad ffyrdd gwahanol o weithio ac felly wahanol ffordd o'u cyrraedd.
Gallwch gysylltu â Masnach Deg Cymru am help a chyngor ar ddechrau drwy ymweld â'r dudalen ‘Cysylltu â Ni'
Gallwch hefyd ymuno â'n grŵp Facebook ar gyfer Prifysgolion a Cholegau i drafod syniadau ac i gael cyngor oddi wrth brifysgolion a cholegau eraill drwy ddilyn y ddolen hon: Facebook.